Howell Elfed Lewis
1860–1953

Coffa Elfed / Elfed Museum

Y Llenor

Coffa Elfed / Elfed MuseumEnillodd Elfed ei wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn 20 oed yng Nghaernarfon am gyfansoddi cyfres o englynion ar y testun ‘Saith Tymor Dyn’. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887 enillodd ar gyfansoddi traethawd ar y testun ‘Barddoniaeth Gymraeg yn y Ddeunawfed Ganrif’.

Profodd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1888 yn hynod ffrwythlon i Elfed. Enillodd y Goron am bryddest ar y testun ‘Saboth yng Nghymru’ yn ogystal ag ennill ar gyfansoddi rhieingerdd ar y testun ‘Llyn y Morwynion’ a thraethawd ar ‘Athrylith John Ceiriog Hughes’.

Y flwyddyn ddilynol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu enillodd y Goron am arwrgerdd ar y testun ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’ ac yna’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 am awdl ar y testun ‘Hunanaberth’.

Coffa Elfed / Elfed MuseumYn ystod ei gyfnod fel Archdderwydd rhwng 1923 a 1927 derbyniodd Dug a Duges Efrog, y darpar frenin Siôr VI a’i wraig, yn aelodau o’r orsedd

Bernid fod Elfed yn drwm o dan ddylanwad rhamantiaeth Islwyn a John Morris-Jones yn ogystal â’r Rhamantwyr Saesneg. Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o’i farddoniaeth yn y ddwy iaith. Ystyrir ei ddwy gyfrol Caniadau yn 1895 a 1901 fel y pwysicaf o’i eiddo. Fe’u hailgyhoeddwyd yn un gyfrol yn 1909 gymaint oedd eu poblogrwydd.

Profodd ei delynegion am dlysni natur yn boblogaidd yn arbennig cerddi fel ‘Gwyn ap Nudd’ a ‘Pan Ddaw’r Nos’. Sonnir fel y byddai Esgob Llandaf, Thomas Rees, yn ogystal â Brynach, athro beirdd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gâr, yn adrodd y bryddest ‘Gorsedd Gras’ ar eu cof. Rhoes y bryddest honno y Gadair i Elfed yn Eisteddfod y Pasg Bermo yn 1887.

Coffa Elfed / Elfed MuseumAr un adeg cyhoeddwyd erthyglau cyson o’i eiddo ar bynciau llenyddol yn Y Genhinen yn nhraddodiad Charles Ashton a Thomas Stephens. Edmygai waith Ceiriog yn fawr a chyhoeddwyd cyfrol o’i eiddo o dan y teitl Athrylith John Ceiriog Hughes yn 1899. Cyfrol arall o’i eiddo oedd Welsh Catholic Poetry of the Fifteenth Century a gyhoeddwyd yn 1912.

Bu Elfed am gyfnod yn olygydd Y Dysgedydd, un o gyhoeddiadau’r Annibynwyr. Mae nifer o’i gyfraniadau yn taflu golwg werthfawr ar fywyd cymdeithasol ei fro enedigol yng nghyfnod ei blentyndod wrth iddo sôn am y Fari Lwyd a chymeriadau’r ardal (gweler tudalen Atgofion).

Ymhlith ei gyfrolau Saesneg cymeradwyir My Christ and Other Poems (1891), Israel and Other Poems (1930) a Songs of Assisi (1938).

Tystia’r Athro Thomas Parry yn ei gyfrol Hanes Llenyddiaeth Cymru (1944) fod Elfed wedi arwain y ffordd fel bardd y canu rhydd ac wedi profi’n un o’r cerrig sarn a arweiniodd y beirdd ‘allan o gors y bedwaredd ganrif ar bymtheg’.

Arianwyd gan / Funded by

Canolfan Tywi - Tywi Centre RDP Sir Gar Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Cyngor Sir Gar - Carmarthenshire County Council Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National trust EU Llwodraeth Cymru - Welsh Government