Howell Elfed Lewis
1860–1953

Coffa Elfed / Elfed Museum

Y Gweinidog

Y Gweinidog

Derbyniodd Elfed cynifer â 80 o aelodau un prynhawn Sul pan oedd yn weinidog ym Mwcle. Yno hefyd y cyfarfu â’i ddarpar wraig, Mary Taylor. Priododd y ddau yn 1887 pan oedd Elfed wedi symud i’w ail ofalaeth yn Hull. Roedd hithau ddeng mlynedd yn iau na’i gŵr.Yn ystod ei gyfnod o saith mlynedd yng Ngogledd Lloegr dechreuodd Elfed ddychwelyd i bregethu yng Nghymru’n gyson.

THE MINISTERYn 1891 derbyniodd alwad i weinidogaethu ar eglwys Saesneg Y Parc, Llanelli. Yn ystod ei gyfnod yno bu galw mawr am ei wasanaeth ymhlith y capeli Cymraeg. Symudodd i Lundain i gymryd gofal o eglwys hynafol Harecourt yn 1898.

Ymhen pedair blynedd symudodd i un o brif gapeli’r Annibynwyr Cymraeg sef Tabernacl, King’s Cross, yng nghanol Llundain ac yno y bu tan ei ymddeoliad yn 1940. Ar un cyfnod roedd dros fil o aelodau o dan ei adain. Magodd yntau a’i wraig saith o blant ond bu Mary farw yn 1918. Ymhen pum mlynedd priododd Elisabeth Lloyd, gwraig weddw a hanai o Ddyffryn Tywi, ond bu hithau hefyd farw yn 1927.

Erbyn 1930 collodd Elfed ei olwg yn llwyr ac ofnai y deuai ei waith cyhoeddus i ben am na fedrai deithio ar ei ben ei hun mwyach. Ond y flwyddyn honno priododd Mary Davies, un o’i aelodau, a bu hithau’n gefn iddo weddill ei ddyddiau yn ei alluogi i fyw bywyd llawn.

Coffa Elfed / Elfed MuseumGellir rhannu gweinidogaeth Elfed yn King’s Cross yn dair rhan  - cyfnod y diwygiad ar ddechrau’r ganrif, cyfnod yr encilio mawr wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a chyfnod y dirwasgiad yn y 1930au pan heidiai miloedd o Gymry i’r ddinas a’i chyffiniau i chwilio am waith.

Gwnaed Elfed yn Gadeirydd Undeb Cynulleidfaol Cymru a Lloegr; yn Gadeirydd Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr yn ogystal ag yn Gadeirydd yr Undeb Cymraeg a Chadeirydd Bwrdd Cenhadol Llundain ar ddau achlysur. 

Ystyrir ei gyfrolau o bregethau a homilïau megis Plannu Coed (1894) a Lampau’r Hwyr (1945) yn gyfrolau sy’n rhoi pwys ar y wedd foesol yn hytrach na diwinyddol.

Ystyrid ei bregethu delweddol, yn pwysleisio’r wedd ddefosiynol yn hytrach na chyfeirio at ddigwyddiadau’r dydd, yn garreg filltir yn hanes datblygiad pregethu Cymraeg.

Arianwyd gan / Funded by

Canolfan Tywi - Tywi Centre RDP Sir Gar Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Cyngor Sir Gar - Carmarthenshire County Council Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National trust EU Llwodraeth Cymru - Welsh Government