Howell Elfed Lewis
1860–1953

Coffa Elfed / Elfed Museum

YR EMYNYDD

Hwyrach mai fel emynydd y cofir am Elfed yn anad dim wrth i’w emynau gael eu canu’n rheolaidd mewn oedfaon a chymanfaoedd ar hyd y degawdau. Cyfansoddodd emynau at bob achlysur ac astudiodd y grefft yn drylwyr. Ystyrir ei emynau’n fwy synhwyrus nag emynau cynt.

Coffa Elfed / Elfed MuseumCynhwysir 44 o emynau Elfed yn y caniedydd Caneuon Ffydd a ddefnyddir gan yr enwadau yng Nghymru er 2001. Yr unig awdur sydd â mwy o’i emynau wedi’u cynnwys, sef union ddwbl eiddo Elfed, yw William Williams, Pantycelyn.

Perthyn aml i stori ddiddan y tu ôl i gyfansoddi nifer o’r emynau. Edrydd Elfed am y profiad o fynychu Cwrdd Gweddi yng nghwmni ei dad yn troi’n ddwy linell glo yn un o’i emynau;

Cerddai ef dan fyfyrio, a’r llwybr yn rhy gynnil i mi fod wrth ei ochr; ac weithiau ni sylwai fy mod wedi colli tir ac yn dilyn fwy neu lai o hirbell. Yn sydyn arhosai, troai ei wyneb yn ôl ataf, a galwai’n dirion, - ‘Dere’n awr.’ Tybiaf mai rhyw adlewyrch o’r profiad hwn wnaeth i mi, wrth ganu’r emyn –‘Arglwydd Iesu dysg i’m gerdded,’ gloi’r pennill cyntaf gyda’r cysur – ‘Mae yn olau ond cael gweld Dy wyneb Di’. Gyda’r alwad, ac un golwg ar ei wyneb, ni theimlwn mor lluddedig; ymhoewai fy ngham drachefn, ac nid oedd y rhiw mor galed i’w dringo.

Traddododd Elfed ei anerchiad o Gadair Undeb yr Annibynwyr yn Llangefni yn 1923 ar ‘Yr Emyn Cymraeg’. Roedd yn aelod o fwrdd golygyddol tri o ganiedyddion yr Annibynwyr a gyhoeddwyd yn 1895, 1921 a 1960.

Ymhlith ei emynau mwyaf adnabyddus mae ‘Arglwydd mae yn nosi, gwrando ar ein cri’, ‘Hyfryd eiriau’r Iesu, bywyd ynddynt sydd’, ‘Cofia’n gwlad benllywydd tirion, dy gyfiawnder fyddo’i grym’, ‘Yr Arglwydd a feddwl amdanaf, a dyna fy nefoedd am byth’, ‘Pob peth, ymhell ac agos, sy’n dangos Duw i’r byd’ ac wrth gwrs deil ‘Rho i’m yr hedd na ŵyr y byd amdano’ yn boblogaidd mewn angladdau.

Cynhwyswyd wyth o’i emynau saesneg yng nghaniedydd Congregational Praise ar un adeg a tebyg mai’r enwocaf ohonynt fyddai ‘Whom oceans part, O Lord, unite’.

Arianwyd gan / Funded by

Canolfan Tywi - Tywi Centre RDP Sir Gar Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Cyngor Sir Gar - Carmarthenshire County Council Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National trust EU Llwodraeth Cymru - Welsh Government