Howell Elfed Lewis
1860–1953

Coffa Elfed / Elfed Museum

ATGOFION - OFERGOELION

Naill ai'r gaeaf hwnnw neu un agos ato daeth rhyw bla o ofergoelion dros yr ardal. Nid un na dwy noson y troai'r cwmni at y gannwyll gorff, cŵn bendith eu mamau, a drychiolaethau annaturiol fel pedwarcarnol heb ben iddo a welwyd gan rai wrth fynd heibio i iet Pen-y-graig Fawr (yr iet oedd i'r heol gul a arweiniai o'r ffordd fawr at y tŷ), a bwcïod o bob math :mewn gair, gellid tybied fod y tylwyth teg wedi dod yn grynswth i gymryd meddiant o'r wlad.

Credai fy mam yn y pethau hyn, ar waethaf holl wawd chwerthiniog fy nhad. Ofnaf mai chwedlau gwneud oedd llawer ohonynt. Pan welid fod blas ar y nwyddau, yr oedd yno grefftwyr yn barod i gyflenwi'r angen. Dyna aeaf o nosweithiau crynllyd! Yr oedd dychryn arnaf symud o olau’r gannwyll a'r tân i gyfeiriad y gwely. Y syndod yw fy mod wedi llwyddo i ymryddhau gystal oddiwrth yr hen chwedlau hyn. Er iddynt fy mhoeni ar y pryd, y mae rhyw duedd gyfeillgar - neu oddefgar o leìaf - tuag atynt yn aros yn fy mryd.

Ryw hanner milltir o'n tŷ yr oedd man a elwid Bwlchcydiadau. Nìd oedd yno dŷ - yn fy nghof i, beth bynnag: dim ond y ffordd yn ymwahanu'n ddwy, ac un ohonynt yn fuan yn cyrraedd rhostir unig. Un nos Sadwrn yr oedd ffarmwr yn dychwelyd o dref Caerfyrddin yn lled hwyr, a'r nos yn dywyll. Ymosodwyd arno gerllaw'r Bwlch, gan ddau grwydryn; wedi lladrata ei arian, ac ar ol ei faeddu’n greulon, gadawsent ef, fel y tybient, yn gorff marw. Wedi ei adael dychwelodd un ohonynt i'w sicrhau ei hun yn fwy pendant ei fod yn farw. Yr oedd y dyn druan yn ddigon ymwybodol ar waethaf y driniaeth, i ddal ei anadl pan ddychwelodd yr adyn, ac i ffugio dyn marw.

Wedi rhoddi amser iddynt fyned yn ddigon pell llwyddodd i ymlusgo rywfodd i dŷ ffarm gerllaw – Parc-y-mynydd - ac adroddodd yr hanes. Bore trannoeth - bore Saboth - yr oedd y gymdogaeth i gyd yn ferw gan y newydd: ymgasglodd y y bobl o bob cyfeiriad, wedi eu harfogi eu hunain â chryman neu bladur neu fwyell neu bigfforch, a dryll neu ddau, a chŵn; ac aed i'r helfa. Buont yn tramwy a chwilio am oriau, a daethpwyd o hyd i'r ddau leidr llofruddiog yng ngallt Nant-y-castell. Clywais adrodd y stori mewn llawer ffurf, yn frawychus ddigon; ac ni allaf hyd heddiw fynd heibio i Fwlchcydiadau heb ddychmygu'r olygfa, a'r dyn mewn ymdrech i ddal ei anadl rhag bradychu nad oedd yn farw.

Arianwyd gan / Funded by

Canolfan Tywi - Tywi Centre RDP Sir Gar Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Cyngor Sir Gar - Carmarthenshire County Council Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National trust EU Llwodraeth Cymru - Welsh Government