Howell Elfed Lewis
1860–1953

Coffa Elfed / Elfed Museum

DYN CYHOEDDUS

Kings Cross

Dyfarniad yr Athro R. Tudur Jones, prif hanesydd enwad yr Annibynwyr, am Elfed oedd ‘gŵr na wnaeth gam â neb’. Tebyg ei fod yn llygad ei le oherwydd gellid dibynnu ar Elfed i draethu’n ddoeth ymhob sefyllfa. Ni fu erioed mewn unrhyw fath o ymrafael.

Roedd bod yn drefnus a defnyddio ei amser i bwrpas yn nodwedd ohono fel yr amlygodd yn ei ddyddiau cynnar yn yr ysgol. Byddai’n paratoi pob dim yn drylwyr. Byddai ei lawysgrifen bob amser yn ddestlus. Yn nyddiau ei ddallineb cariai ffon a naddwyd o bren a dyfodd ym Mhalestina.

Ni fyddai Elfed yn ochri gyda’r un safbwynt diwinyddol. Gwelai rywfaint o’r gwirionedd ymhob safbwynt er mwyn coleddu moesoldeb uwch. Ni chymerai ran yn y dadlau chwyrn a fu ynghylch y Diwygiad. Ond cyhoeddodd lyfr, Christ among the Miner,(1906), yn delio â’r ffenomen gan weld daioni yn deillio ohono.

Coffa Elfed / Elfed MuseumMedrai Elfed gymysgu â phawb o bob gradd. Dywedir iddo dreulio hanner awr yn sgwrsio â Siôr VI pan aeth i Balas Buckingham i gael ei anrhydeddu. Ni fyddai’n arferol i’r rhelyw dreulio mwy na phum munud yng nghwmni’r brenin.

Ar yr un pryd byddai wrth ei fodd yn sôn am gymeriadau tebyg i Nani a adwaenai ym more oes. Byddai’n adrodd rheffynnau o adnodau gan gwpla’n ddi-feth trwy ddweud “swm y cwbl a glybuwyd yw, ‘Ofna Dduw’.” Cofiai Elfed am Ifan Gribyn yn ei borthi’n afieithus pan oedd yn llanc ifanc yn y pulpud.

Cofiai am David Phillips, Gilfach Jestyn, yn rhoi ei bedair cyfrol o Weithiau Dr Edward Williams, Rotherham yn rhodd iddo. Dywedai iddo ddarllen y traethawd ar Equity of Divine Government and Sovereignty of Divine Grace droeon.

Roedd Elfed hefyd yn aelod o’r Seiri Rhyddion ac yn ei dro yn dal amryw o swyddi o fewn y frawdoliaeth. Fe’i cynhwysid yn Rhestr Pensiynau Sifil yn 1943. Rhoddwyd Tysteb Genedlaethol iddo yn 1948.

Dylid nodi fod un o frodyr Elfed wedi’i benodi’n Brifathro Coleg Diwinyddol Aberhonddu. Hyfforddodd Thomas Lewis, M.A., B.D. genedlaethau o fyfyrwyr yn weinidogion. Un o neiaint Elfed oedd y Parch Morley Lewis a fu’n weinidog yn y Rhondda, Crymych a Chefneithin ac aeth ei feibion yntau, Elfed ac Eifion, hefyd i’r weinidogaeth.

Arianwyd gan / Funded by

Canolfan Tywi - Tywi Centre RDP Sir Gar Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Cyngor Sir Gar - Carmarthenshire County Council Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National trust EU Llwodraeth Cymru - Welsh Government