Howell Elfed Lewis
1860–1953

Coffa Elfed / Elfed Museum

Croeso i Amgueddfa Elfed

Howell Elfed LewisCofir Howell Elfed Lewis fel gweinidog, bardd ac emynydd. Bu’n weinidog Capel Tabernacl, King’s Cross, Llundain am dros ddeng mlynedd ar hugain. Enillodd ddwy Goron a Chadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn Archdderwydd am bedair blynedd.

Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o farddoniaeth o’i eiddo yn Gymraeg a Saesneg a’r un modd emynau yn y ddwy iaith. Caiff ‘Rho im yr hedd’ ei chanu mewn angladdau o hyd ac ystyrir ‘Cofia’n Gwlad’ yn ail anthem genedlaethol.

Ganwyd Howell mewn bwthyn bychan o’r enw Y Gangell yng nghyffiniau Cynwyl Elfed yn Sir Gâr. Ef oedd yr hynaf o 12 o blant. Ganwyd Rosamund a John yn Y Gangell hefyd tra ganwyd Lewis ym mwthyn Clun-bach Isaf gerllaw. Yn 1868 symudodd y teulu i Bant-y-waun lle ganed Thomas, Anna, Mary a Dan. Tua 1875 symudasant i Benlanchwilor lle ganed Samuel a Sarah. Deg o blant a fu byw. Rhoddai’r teulu bwys ar fynychu’r oedfaon, yn ogystal â’r cyfarfodydd ar hyd yr wythnos, yng Nghapel Blaen-y-coed.

ElfedDechreuodd bregethu cyn ei fod yn 14 oed a chafodd ei dderbyn yn fyfyriwr yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin yn 16 oed a chael ei ordeinio ym Mwcle, Sir Fflint yn 20 oed. Mabwysiadodd yr enw ‘Elfed’ fel cyfeiriad at y plwyf lle cafodd ei eni

Collodd ei olwg yn ei hen ddyddiau ond ni rwystrodd hynny ef rhag parhau i bregethu. Fe’i cofir am ei lais melfedaidd ac fel gŵr a gododd o amgylchiadau tlodaidd i fod yn un o ddynion amlycaf ei genedl.

Bu farw Elfed yng nghartref ei ymddeoliad ym Mhenarth ar Ragfyr 10 1953 yn 93 oed. Claddwyd ei lwch bum diwrnod yn ddiweddarach ym mynwent Blaen-y-coed.

Arianwyd gan / Funded by

Canolfan Tywi - Tywi Centre RDP Sir Gar Cyfoeth Naturiol Cymru - Natural Resources Wales Cyngor Sir Gar - Carmarthenshire County Council Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National trust EU Llwodraeth Cymru - Welsh Government